Y Cyfarfod Llawn

 

Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mercher, 8 Hydref 2014

 

Amser y cyfarfod:
13.30

 

 

 

 

Agenda

(222)v2

 

<AI1>

1 Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth (45 munud)

Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2.

 

Gweld y Cwestiynau

</AI1>

<AI2>

2 Cwestiynau i'r Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus (45 munud)

Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2.

 

Gweld y Cwestiynau

</AI2>

<AI3>

3 Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol (15 munud)

 

Gweld y Cwestiynau

</AI3>

<AI4>

4 Cynnig i ddiddymu Rheoliadau Addysg (Sefydliadau Ewropeaidd) a Chymorth i Fyfyrwyr (Cymru) (Dirymu) 2014 (30 munud)

NNDM5582 Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.2:

 

Yn cytuno bod Rheoliadau Addysg (Sefydliadau Ewropeaidd) a Chymorth i Fyfyrwyr (Cymru) (Dirymu) 2014, a osodwyd gerbron y Cynulliad ar 18 Gorffennaf, yn cael eu dirymu.

 

Dogfennau ategol:

 

Rheoliadau Addysg (Sefydliadau Ewropeaidd) a Chymorth i Fyfyrwyr (Cymru) (Dirymu) 2014

Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig)

Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

</AI4>

<AI5>

5 Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyllid ynghylch yr arferion gorau o ran y gyllideb (60 munud)

NDM5591 Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

 

Yn cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar ei ymchwiliad i’r arferion gorau o ran y gyllideb, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Gorffennaf 2014.

 

Nodyn: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 1 Hydref 2014

 

Dogfennau Atodol

 

Adroddiad y Pwyllgor Cyllid

Ymateb Llywodraeth Cymru

</AI5>

<AI6>

6 Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ynghylch gwasanaethau orthodontig yng Nghymru (60 munud)

NDM5590 David Rees (Aberafan)

 

Yn cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar wasanaethau orthodontig yng Nghymru, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 15 Gorffennaf 2014.

 

Nodyn: Gosodwyd ymateb y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 1 Hydref 2014.

 

Dogfennau Ategol

 

Adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Ymateb Llywodraeth Cymru

</AI6>

<AI7>

7 Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru (60 munud)

NDM5593 Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Yn cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn croesawu bod Llywodraeth Cymru, ynghyd â Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, wedi sicrhau £95 miliwn o gyllid ychwanegol dros ddwy flynedd ar gyfer y Grant Amddifadedd Disgyblion yn y gyllideb newydd.

 

2. Yn croesawu bod cyllid hefyd wedi cael ei ymestyn i gynnwys Premiwm Disgyblion y Blynyddoedd Cynnar ar gyfer plant o dan 5 oed.

 

3. Yn cydnabod bod y cytundeb cyllidebol dwy flynedd yn helpu i fynd i'r afael â'r pryderon a fynegwyd gan ysgolion ym mlynyddoedd blaenorol y cynllun o ran sicrhau bod cyllid yn parhau.

 

4. Yn cydnabod pwysigrwydd y ddau gynllun o ran helpu i dorri'r cysylltiad rhwng tlodi a thangyflawni addysgol ac o ran cau'r bwlch cyrhaeddiad rhwng disgyblion o gefndiroedd difreintiedig a chefndiroedd mwy breintiedig.

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Elin Jones (Ceredigion)

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

1. Yn nodi'r toriad mewn termau real o £56 miliwn yng nghyllideb addysg y flwyddyn hon sy'n cynnwys toriadau o £5 miliwn i'r Grant Effeithiolrwydd Ysgolion a £10.7 miliwn i'r cynllun prentisiaeth Recriwtiaid Newydd.

2. Yn nodi toriadau pellach o £26.4 miliwn i addysg yn y gyllideb ddrafft o'i chymharu â'r gyllideb atodol ar gyfer mis Mehefin 2014.

3. Yn credu bod Llywodraeth Cymru wedi mynd yn groes i ysbryd cytundebau blaenorol ar gyllidebau ac yn gwrthod y syniad o dincera â'r gyllideb tra bod diffygion sylfaenol yn parhau.

Gwelliant 2 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi nad oes gwerthusiad ffurfiol o'r Grant Amddifadedd Disgyblion ar gael eto.

</AI7>

<AI8>

8 Cyfnod Pleidleisio 

</AI8>

<AI9>

9 Dadl Fer (30 munud)

NDM5594 Keith Davies (Llanelli)

 

Adfywio Trefol 2.0 - Creu cymunedau trefol a chanol trefi cynaliadwy

</AI9>

<TRAILER_SECTION>

 

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 14 Hydref 2014

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

 

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>